Diolch am eich diddordeb yn y Trawsgrifiwr Ar-lein - y wefan sy'n eich helpu i greu is-deitlau a
thrawsgrifiadau i ffeil sain neu fideo cyfrwng Cymraeg yn hwylus.
Cywirdeb
Nid yw'r Trawsgrifiwr Ar-lein yn adnabod geiriau yn iawn bob amser, ac felly mae'r wefan yn darparu
rhyngwyneb ar gyfer cywiro'r trawsgrifiadau awtomatig.
Os ydych yn cael canlyniadau gwael sydd angen cryn dipyn o waith cywiro, yna gall y canlynol fod o
help. Gofalwch fod y siaradwr/siaradwyr yn llefaru'n ddigon agos at feicroffon sy'n gweithio'n
foddhaol a'u bod yn siarad yn glir heb fod yn rhy gyflym. Peidiwch â disgwyl iddo adnabod geiriau
Saesneg neu eiriau mwy llafar (fel rîli, tsips, neith).
Os nad ydi'r Trawsgrifiwr Ar-lein i weld yn adnabod eich llais yn dda, mae'n bosib bod eich acen
neu'ch llais yn anghyfarwydd i'r peiriant. Un ffordd o wneud yn siŵr y bydd fersiwn diweddarach o'r
Trawsgrifiwr Ar-lein yn adnabod eich llais yn well yw drwy rannu eich data gyda ni (gweler isod)
ac/neu recordio rhai brawddegau ar gwefan Gymraeg Mozilla Common Voice. https://commonvoice.mozilla.org/cy
Preifatrwydd
Hoffem i chi fod yn ymwybodol, wrth i chi ddefnyddio Trawsgrifiwr Ar-lein, y bydd eich ffeil sain,
fideo neu fideo YouTube yn cael ei danfon at ein gweinydd(ion) ni er mwyn trawsgrifio'r lleferydd i
chi. Mae'r Trawsgrifiwr Ar-lein yn cadw copïau o'r sain, trawsgrifiadau awtomatig yn ogystal ag
unrhyw gywiriadau hyd at 30 diwrnod er mwyn rhoi amser digonol i chi ddefnyddio'r gwasanaeth a
chywiro pob awgrym. Ar ôl 30 diwrnod bydd pob ffeil gysylltiedig â'ch cais gwreiddiol yn cael ei
dileu oddi ar ein gweinydd(ion). Byddwn yn parchu'n llawn eich preifatrwydd a hawliau hawlfraint ac
ni fyddwn yn defnyddio eich data at unrhyw ddibenion eraill y tu hwnt i ddarparu gwasanaeth
Trawsgrifiwr Ar-lein.
Rhannu Data
Os ydych chi'n fodlon i ni ddefnyddio eich data, a bod modd i chi fel awdurdod neu berchennog
hawlfraint roi caniatâd i ni ddefnyddio'r data hynny er mwyn adeiladu corpws a gwella'r trawsgrifiwr
at eich dibenion chi ac eraill yn ogystal â thechnolegau iaith Cymraeg yn gyffredinol, yna
cysylltwch â ni drwy techiaith@bangor.ac.uk i drafod sut
y gallwn ni gydweithio.
Drwy roi ffeil sain, fideo neu ddolen YouTube i mewn i'r wefan rydych chi'n derbyn y telerau
hyn.