Diolch am eich diddordeb yn y Trawsgrifiwr Ar-lein - y wefan sy'n eich helpu i greu is-deitlau a thrawsgrifiadau i ffeil sain neu fideo cyfrwng Cymraeg yn hwylus.
Nid yw'r Trawsgrifiwr Ar-lein yn adnabod geiriau yn iawn bob amser, ac felly mae'r wefan yn darparu rhyngwyneb ar gyfer cywiro'r trawsgrifiadau awtomatig.
Os ydych yn cael canlyniadau gwael sydd angen cryn dipyn o waith cywiro, yna gall y canlynol fod o help. Gofalwch fod y siaradwr/siaradwyr yn llefaru'n ddigon agos at feicroffon sy'n gweithio'n foddhaol a'u bod yn siarad yn glir heb fod yn rhy gyflym. Peidiwch â disgwyl iddo adnabod geiriau Saesneg neu eiriau mwy llafar (fel rîli, tsips, neith).
Os nad ydi'r Trawsgrifiwr Ar-lein i weld yn adnabod eich llais yn dda, mae'n bosib bod eich acen neu'ch llais yn anghyfarwydd i'r peiriant. Un ffordd o wneud yn siŵr y bydd fersiwn diweddarach o'r Trawsgrifiwr Ar-lein yn adnabod eich llais yn well yw drwy rannu eich data gyda ni (gweler isod) ac/neu recordio rhai brawddegau ar gwefan Gymraeg Mozilla Common Voice. https://commonvoice.mozilla.org/cy
Hoffem i chi fod yn ymwybodol, wrth i chi ddefnyddio Trawsgrifiwr Ar-lein, y bydd eich ffeil sain, fideo neu fideo YouTube yn cael ei danfon at ein gweinydd(ion) ni er mwyn trawsgrifio'r lleferydd i chi. Mae'r Trawsgrifiwr Ar-lein yn cadw copïau o'r sain, trawsgrifiadau awtomatig yn ogystal ag unrhyw gywiriadau hyd at 30 diwrnod er mwyn rhoi amser digonol i chi ddefnyddio'r gwasanaeth a chywiro pob awgrym. Ar ôl 30 diwrnod bydd pob ffeil gysylltiedig â'ch cais gwreiddiol yn cael ei dileu oddi ar ein gweinydd(ion). Byddwn yn parchu'n llawn eich preifatrwydd a hawliau hawlfraint ac ni fyddwn yn defnyddio eich data at unrhyw ddibenion eraill y tu hwnt i ddarparu gwasanaeth Trawsgrifiwr Ar-lein.
Os ydych chi'n fodlon i ni ddefnyddio eich data, a bod modd i chi fel awdurdod neu berchennog hawlfraint roi caniatâd i ni ddefnyddio'r data hynny er mwyn adeiladu corpws a gwella'r trawsgrifiwr at eich dibenion chi ac eraill yn ogystal â thechnolegau iaith Cymraeg yn gyffredinol, yna cysylltwch â ni drwy techiaith@bangor.ac.uk i drafod sut y gallwn ni gydweithio.
Drwy roi ffeil sain, fideo neu ddolen YouTube i mewn i'r wefan rydych chi'n derbyn y telerau hyn.
Dilynwch y camau isod er mwyn i'r Trawsgrifiwr adnabod beth rydych yn ei ddweud ar lafar yn Gymraeg a'i drosi yn destun.
Dydi'r Trawsgrifiwr ddim eto yn adnabod eich geiriau yn iawn bob amser. Mewn arbrofion syml mae'r fersiwn cychwynnol hwn yn camddeall tua 30% o eiriau mewn brawddeg. Os ydych chi'n cael canlyniadau gwaeth na hyn, gall y canlynol fod o help:
Y camau felly yw: